P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol nad yw’n gweithio a’i fod yn achosi mwy o niwed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anne Ellis, ar ôl casglu cyfanswm o 2,189 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfnodau clo treigl a mwy llym fyth yn sgil y cynnydd yn nifer y canlyniadau positif ar gyfer Covid, a’i chred y bydd hyn yn arwain at fwy o achosion o Covid a chynnydd aruthrol mewn marwolaethau. A wnaiff hefyd ystyried barn yr Athro Sunetra Gupta, yr Athro Carl Heneghan a’r Athro Karol Sikora (ymysg eraill), a nodi datganiad Great Barrington a’i lofnodwyr; a chydnabod fod cyfnodau clo mewn gwirionedd yn gwneud mwy o niwed nag o les.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gwyr
· Gorllewin De Cymru